Hosea 3

Cariad Duw yn cynnig gobaith

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i:

“Dos, a dangos gariad at dy wraig eto, er bod ganddi gariad arall a'i bod yn anffyddlon i ti. Dyna'n union fel mae'r Arglwydd yn caru pobl Israel, er eu bod nhw'n troi at eilun-dduwiau ac yn offrymu teisennau ffrwyth melys iddyn nhw.”

2Felly dyma fi'n mynd a talu un deg pump darn arian a chan cilogram o haidd amdani. 3A dyma fi'n dweud wrthi, “O hyn allan ti'n mynd i aros gyda mi. Dwyt ti ddim i weithio fel putain na chael rhyw gydag unrhyw ddyn, hyd yn oed gyda fi.”

4Mae pobl Israel yn mynd i fod am amser hir heb frenin nag arweinydd eu hunain, heb fedru aberthu, heb golofnau cysegredig, heb arweiniad offeiriad nac eilun-ddelwau teuluol. 5Ond wedyn yn y dyfodol bydd pobl Israel yn troi yn ôl at yr Arglwydd eu Duw a'u brenin o deulu Dafydd. Bryd hynny byddan nhw'n plygu i'r Arglwydd a'i barchu, ac yn profi eto mor dda ydy e.

Copyright information for CYM